Diwrnod hydrefol ar draeth Porthor
Dilynwch y blog er mwyn darganfod popeth sydd yn mynd ymlaen o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llŷn. Cadwraeth, digwyddiadau, prosiectau, gwaith hefo ysgolion lleol a llawer mwy. Cadwch mewn cysylltiad hefo digwyddiadau ar arfordir a chefn gwlad y rhan arbennig yma o Gymru.
Thursday, 31 October 2013
Thursday, 10 October 2013
Antur ar yr arfordir!
Roedd yr haf diwethaf y cynhesaf ers 2006 - tywydd
perffaith i fwynhau dyddiau braf ar draethau Llŷn. I blant a ymwelodd â thraeth
Porthor, roedd ein “pecynnau antur” ar gael i wneud diwrnod braf yn ddiwrnod
gwell fyth!
Mae’r pecynnau yma yn cynnwys pob dim sydd ei angen
i anturiaethwyr bach cael hwyl a sbri ar lan y môr. Yn ystod y gwanwyn a’r haf
maent ar gael i’w benthyg am ddim o’r caban gwybodaeth yn y maes parcio.
Un o'r pecynnau antur, yn llawn gweithgareddau i'r anturiaethwyr bychan.
Yn ogystal â bod yn llawn o bethau hwyliog i’w
gwneud ar y traeth, mae’r pecynnau wedi cael eu dylunio yn arbennig er mwyn
helpu plant i ddysgu am anifeiliaid, planhigion, a hanes diwylliannol ein
harfordir hardd. Dau o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yw archwilio pyllau
creigiog (chwilio am anifeiliaid y môr yn y pyllau), a’r helfa drysor,
lle mae môr ladron bach yn defnyddio cwmpawd a map i helpu Capten Morgan
ddarganfod y trysor coll.
Dwy o'r anturiaethwyr a fuodd yn llwyddiannus yn darganfod y trysor coll ym Mhorthor!
Mae’r pecynnau antur wedi bod yn boblogaidd dros
ben hyd yn hyn. Dyma beth mae rhai pobl wedi dweud amdanynt:
- “Cymysgfa wych o weithgareddau. Addysg ar y
lefel perffaith”.
- “Syniad gwych i gael mwy o bobl i
ryngweithio efo’r amgylchedd”.
- “Pecyn ffantastig, byddwn yn ôl i wneud mwy
o’r gweithgareddau”.
‘Rydan ni wedi bod yn hapus iawn gweld gymaint o
bobl yn cael hwyl ar y traeth ac mor frwd wrth gymeryd rhan yn y gweithgareddau
(yn cynnwys llenwi’r caban efo’u lluniau hyfryd ar ddiwedd y dydd - oedolion a
phlant yr un fath!).
Efallai fod yr haf wedi dod i ben blwyddyn yma, ond
yr ydan ni yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn barod yn paratoi at y nesaf.
Yn dilyn llwyddiant y pecynnau antur ym Mhorthor, rydym yn falch o gyhoeddi y
bydd pecyn newydd sbon yn barod ar gyfer traeth Llanbedrog yn 2014. Bydd y
pecyn yma hefyd yn cynnwys bob math o wahanol weithgareddau, yn cynnwys y
‘Sialens Dyn Haearn’, sydd yn gofyn cerdded i fyny i’r ddelw haearn ar y pentir
uwchben y traeth, er mwyn darganfod cyfeirnod gwahanol lefydd ar y gorwel -
bydd gwobr ar gael i’r rhai sydd yn llwyddo!
‘Rydan ni yn falch ofnadwy cael gymaint o
anturiaethwyr bach yn ymweld â ni'r hâf yma, ac mi ydan ni'n edrych ymlaen at
ddwbl yr hwyl blwyddyn nesaf.
Friday, 16 August 2013
Hwyl yn yr haul!
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur
iawn yma yn Llŷn. Yn ogystal â’r hen ffefrynnau rydym wedi cyflwyno ychydig o
weithgareddau newydd yr haf yma, llawer ohonynt fel rhan o Ŵyl Arfordir Llŷn.
Mae’r diwrnodau hwyl ar y traeth wedi bod yn llwyddiannus iawn hefo’r cyfle i
drio caiacio a syrffio’n boblogaidd dros ben. Cawsom dwrnamaint pêl droed
cystadleuol iawn i lawr ar y traeth ym Mhorthor, hefo'r Dreigiau Cymraeg yn ennill y
teitl a’r troffi. Mae yna alw mawr wedi bod am ein masgot newydd Caleb y Cranc
hefyd. Mae Caleb wedi bod yn helpu beirniadu ein cystadlaethau cestyll tywod ac
yn cael ei lun wedi ei dynnu hefo’r plant a rai o’r rhieni oedd wedi gwirioni!
Y Dreigiau Cymraeg gyda'u troffi
Cafodd Blas y Môr ei gynnal i lawr ym
Mhorthdinllaen ym mis Mehefin, a dangoswyd llawer o ddiddordeb gan bobl oedd
eisiau darganfod ffyrdd gwahanol o goginio hefo bwyd môr lleol a blasu’r samplau roedd yn cael eu paratoi gan
gogyddion lleol- y draenog môr wedi ei serio oedd fy ffefryn personol.
Dysgu am greaduriaid y pyllau creigiog ym Mhorthdinllaen
Cynhaliwyd
teithiau cerdded Picnic gyda’r Brain Coesgoch ym Mynydd Mawr hefo Rhys
Jones o Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd a Dave Lamacraft o Plantlife a’r RSPB
yn benthyg eu harbenigedd. Ni chawsom ein siomi gan y brain coesgoch- chawsom
arddangosfa ardderchog ganddynt ar y ddau ddiwrnod.
Mae’r ymgyrch 50 o bethau i wneud cyn i chi
droi’n 11 ¾ wedi bod yn ffordd wych i ddangos i blant faint o hwyl sydd i’w
gael allan yn yr awyr agored hefo ychydig iawn o offer. Mae’r rhestr yn cynnwys
nifer o weithgareddau fel sgimio cerrig, dringo coed, dal cranc a gwneud
trwmped gwair. Roedden yn medru ticio rhai o’r gweithgareddau yma i ffwrdd yn
Llanbedrog a Porthdinllaen gan arwain sesiynau coginio ar dân gwersyll,
adeiladu den, archwilio pyllau creigiog a chreu celf wyllt.
Pawb wrth eu boddau gyda'r melysion ar y tân gwersyll
Dwn i'm amdanoch chi ond da ni wrth ein
boddau yn yr haf!
Monday, 22 July 2013
Porth y Swnt, Aberdaron
Dydd Mawrth diwethaf chawsom y dasg cyffroes o ddatgan yr enillydd yn y gystadleuaeth i enwi ein canolfan ymwelwyr newydd yn Aberdaron fydd yn agor gwanwyn nesa. Roedd y gystadleuaeth i ddarganfod enw arbennig ar gyfer lle arbennig wedi bod yn agored i ddisgyblion Ysgol Crud y Werin, yr ysgol gynradd leol, a dderbyniwyd llwyth o enwau gwych. Ar ôl pendroni penderfynwyd mai Elliw Jones Evans, disgybl blwyddyn 6, oedd yr enillydd gyda’i enw- Porth y Swnt.
Enillodd Elliw becyn bywyd gwyllt, aelodaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r teulu, y cyfle i adael ôl ei llaw yn yr adeilad newydd a’r tocyn aur holl bwysig sydd yn golygu mai Elliw fydd y person cyntaf i gael mynediad i’r ganolfan newydd pan mae’n agor blwyddyn nesa.
Elliw yn derbyn ei gwobr gan Elinor Gwynn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl dod i fyny hefo Porth y Swnt fel enw ar y ganolfan newydd yn Aberdaron.
Mae’r enw Porth y Swnt yn disgrifio pwrpas y ganolfan i’r dim, sef ymddwyn fel porth neu fynedfa i bobl deithio drwyddo yn dysgu am yr ardal gyfagos cyn mynd allan i'w ddarganfod ar liwt eu hunain. Mae cyfeirio at y swnt hefyd yn creu cysylltiad cryf gyda’r ardal leol a swnt Enlli. Enw addas iawn felly.
Mae hi wedi bod yn grêt gallu gweithio mor agos hefo’r ysgol ar agwedda pwysig o ddatblygiad y ganolfan ac mi fydd y berthynas rhwng yr ysgol a’r Ymddiriedolaeth yn cael ei gryfhau hyd yn oed ymhellach gydag agoriad y ganolfan newydd. ‘Da ni’n edrych ymlaen yn barod i gael croesawu Elliw yn ôl yn y gwanwyn ar gyfer agoriad Porth y Swnt ac i gael ei barn ar yr adeilad newydd a chyffroes yma yng nghanol Aberdaron.
Porth y Swnt, Aberdaron sydd wedi ei ariannu gan Visit Wales a’r Eurpoean Regional Development Fund. Mae’r fframwaith dur bellach yn ei le ac mi fydd y gwaith adeiladu yn bwrw ymlaen. Edrychwch allan am waith celf liwgar ar y palis dros yr haf.
Subscribe to:
Posts (Atom)