Monday 22 July 2013

Porth y Swnt, Aberdaron

Dydd Mawrth diwethaf chawsom y dasg cyffroes o ddatgan yr enillydd yn y gystadleuaeth i enwi ein canolfan ymwelwyr newydd yn Aberdaron fydd yn agor gwanwyn nesa. Roedd y gystadleuaeth i ddarganfod enw arbennig ar gyfer lle arbennig wedi bod yn agored i ddisgyblion Ysgol Crud y Werin, yr ysgol gynradd leol, a dderbyniwyd llwyth o enwau gwych. Ar ôl pendroni penderfynwyd mai Elliw Jones Evans, disgybl blwyddyn 6, oedd yr enillydd gyda’i enw- Porth y Swnt.

Enillodd Elliw becyn bywyd gwyllt, aelodaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r teulu, y cyfle i adael ôl ei llaw yn yr adeilad newydd a’r tocyn aur holl bwysig sydd yn golygu mai Elliw fydd y person cyntaf i gael mynediad i’r ganolfan newydd pan mae’n agor blwyddyn nesa.

Elliw yn derbyn ei gwobr gan Elinor Gwynn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl dod i fyny hefo Porth y Swnt fel enw ar y ganolfan newydd yn Aberdaron.

Mae’r enw Porth y Swnt yn disgrifio pwrpas y ganolfan i’r dim, sef ymddwyn fel porth neu fynedfa i bobl deithio drwyddo yn dysgu am yr ardal gyfagos cyn mynd allan i'w ddarganfod ar liwt eu hunain. Mae cyfeirio at y swnt hefyd yn creu cysylltiad cryf gyda’r ardal leol a swnt Enlli. Enw addas iawn felly. 

Mae hi wedi bod yn grêt gallu gweithio mor agos hefo’r ysgol ar agwedda pwysig o ddatblygiad y ganolfan ac mi fydd y berthynas rhwng yr ysgol a’r Ymddiriedolaeth yn cael ei gryfhau hyd yn oed ymhellach gydag agoriad y ganolfan newydd. ‘Da ni’n edrych ymlaen yn barod i gael croesawu Elliw yn ôl yn y gwanwyn ar gyfer agoriad Porth y Swnt ac i gael ei barn ar yr adeilad newydd a chyffroes yma yng nghanol Aberdaron.

Porth y Swnt, Aberdaron sydd wedi ei ariannu gan Visit Wales a’r Eurpoean Regional Development Fund. Mae’r fframwaith dur bellach yn ei le ac mi fydd y gwaith adeiladu yn bwrw ymlaen. Edrychwch allan am waith celf liwgar ar y palis dros yr haf.

No comments:

Post a Comment