Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur
iawn yma yn Llŷn. Yn ogystal â’r hen ffefrynnau rydym wedi cyflwyno ychydig o
weithgareddau newydd yr haf yma, llawer ohonynt fel rhan o Ŵyl Arfordir Llŷn.
Mae’r diwrnodau hwyl ar y traeth wedi bod yn llwyddiannus iawn hefo’r cyfle i
drio caiacio a syrffio’n boblogaidd dros ben. Cawsom dwrnamaint pêl droed
cystadleuol iawn i lawr ar y traeth ym Mhorthor, hefo'r Dreigiau Cymraeg yn ennill y
teitl a’r troffi. Mae yna alw mawr wedi bod am ein masgot newydd Caleb y Cranc
hefyd. Mae Caleb wedi bod yn helpu beirniadu ein cystadlaethau cestyll tywod ac
yn cael ei lun wedi ei dynnu hefo’r plant a rai o’r rhieni oedd wedi gwirioni!
Y Dreigiau Cymraeg gyda'u troffi
Cafodd Blas y Môr ei gynnal i lawr ym
Mhorthdinllaen ym mis Mehefin, a dangoswyd llawer o ddiddordeb gan bobl oedd
eisiau darganfod ffyrdd gwahanol o goginio hefo bwyd môr lleol a blasu’r samplau roedd yn cael eu paratoi gan
gogyddion lleol- y draenog môr wedi ei serio oedd fy ffefryn personol.
Dysgu am greaduriaid y pyllau creigiog ym Mhorthdinllaen
Cynhaliwyd
teithiau cerdded Picnic gyda’r Brain Coesgoch ym Mynydd Mawr hefo Rhys
Jones o Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd a Dave Lamacraft o Plantlife a’r RSPB
yn benthyg eu harbenigedd. Ni chawsom ein siomi gan y brain coesgoch- chawsom
arddangosfa ardderchog ganddynt ar y ddau ddiwrnod.
Mae’r ymgyrch 50 o bethau i wneud cyn i chi
droi’n 11 ¾ wedi bod yn ffordd wych i ddangos i blant faint o hwyl sydd i’w
gael allan yn yr awyr agored hefo ychydig iawn o offer. Mae’r rhestr yn cynnwys
nifer o weithgareddau fel sgimio cerrig, dringo coed, dal cranc a gwneud
trwmped gwair. Roedden yn medru ticio rhai o’r gweithgareddau yma i ffwrdd yn
Llanbedrog a Porthdinllaen gan arwain sesiynau coginio ar dân gwersyll,
adeiladu den, archwilio pyllau creigiog a chreu celf wyllt.
Pawb wrth eu boddau gyda'r melysion ar y tân gwersyll
Dwn i'm amdanoch chi ond da ni wrth ein
boddau yn yr haf!
No comments:
Post a Comment