Thursday 10 October 2013



Antur ar yr arfordir!


Roedd yr haf diwethaf y cynhesaf ers 2006 - tywydd perffaith i fwynhau dyddiau braf ar draethau Llŷn. I blant a ymwelodd â thraeth Porthor, roedd ein “pecynnau antur” ar gael i wneud diwrnod braf yn ddiwrnod gwell fyth! 

Mae’r pecynnau yma yn cynnwys pob dim sydd ei angen i anturiaethwyr bach cael hwyl a sbri ar lan y môr. Yn ystod y gwanwyn a’r haf maent ar gael i’w benthyg am ddim o’r caban gwybodaeth yn y maes parcio.


 Un o'r pecynnau antur, yn llawn gweithgareddau i'r anturiaethwyr bychan.

Yn ogystal â bod yn llawn o bethau hwyliog i’w gwneud ar y traeth, mae’r pecynnau wedi cael eu dylunio yn arbennig er mwyn helpu plant i ddysgu am anifeiliaid, planhigion, a hanes diwylliannol ein harfordir hardd. Dau o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd yw archwilio pyllau creigiog (chwilio am anifeiliaid y môr yn y pyllau), a’r helfa drysor, lle mae môr ladron bach yn defnyddio cwmpawd a map i helpu Capten Morgan ddarganfod y trysor coll.  

Dwy o'r anturiaethwyr a fuodd yn llwyddiannus yn darganfod y trysor coll ym Mhorthor!
 

Mae’r pecynnau antur wedi bod yn boblogaidd dros ben hyd yn hyn. Dyma beth mae rhai pobl wedi dweud amdanynt:
-     “Cymysgfa wych o weithgareddau. Addysg ar y lefel perffaith”.
-     “Syniad gwych i gael mwy o bobl i ryngweithio efo’r amgylchedd”.
-     “Pecyn ffantastig, byddwn yn ôl i wneud mwy o’r gweithgareddau”.
‘Rydan ni wedi bod yn hapus iawn gweld gymaint o bobl yn cael hwyl ar y traeth ac mor frwd wrth gymeryd rhan yn y gweithgareddau (yn cynnwys llenwi’r caban efo’u lluniau hyfryd ar ddiwedd y dydd - oedolion a phlant yr un fath!).


Efallai fod yr haf wedi dod i ben blwyddyn yma, ond yr ydan ni yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn barod yn paratoi at y nesaf. Yn dilyn llwyddiant y pecynnau antur ym Mhorthor, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd pecyn newydd sbon yn barod ar gyfer traeth Llanbedrog yn 2014. Bydd y pecyn yma hefyd yn cynnwys bob math o wahanol weithgareddau, yn cynnwys y ‘Sialens Dyn Haearn’, sydd yn gofyn cerdded i fyny i’r ddelw haearn ar y pentir uwchben y traeth, er mwyn darganfod cyfeirnod gwahanol lefydd ar y gorwel - bydd gwobr ar gael i’r rhai sydd yn llwyddo!

‘Rydan ni yn falch ofnadwy cael gymaint o anturiaethwyr bach yn ymweld â ni'r hâf yma, ac mi ydan ni'n edrych ymlaen at ddwbl yr hwyl blwyddyn nesaf.




No comments:

Post a Comment