Wednesday 22 January 2014

Adar Arbennig


Nos Lun aethom draw at grŵp Urdd Botwnnog yn Ysgol Pont-y-Gof i wneud gweithgareddau yn seiliedig ar adar. Cafodd y grŵp gyfle i ddysgu beth sy'n gwneud adar yn wahanol i bob anifail arall, ddarganfod fwy am rai o’r adar sy’n ymfudo miloedd o filltiroedd i ac o Lŷn, a chlywed am y brain coesgoch prin sy'n byw yn Llŷn

Bran goesgoch- llun gan yr RSPB

I helpu’r adar yn ein gerddi yn ystod y gaeaf creodd y grŵp teclynnau bwydo adar allan o foteli plastic a llwyau pren. Gobeithio bydd y teclynnau yma’n darparu bwyd i adar yn ystod y gaeaf- amser lle mae’n medru bod yn brin.

Llenwi'r poteli hefo hadau

Roedd y plant hefyd yn brysur yn creu masgiau adar allan o blatiau papur. Cafodd nifer o’r masgiau lliwgar yma eu creu, un cynnwys cnocell y coed, titw tomos las a gwylan!

 Un o adar unigryw ardal Botwnnog!

No comments:

Post a Comment