Mae yna brosiect diddorol ar y gweill yn Llŷn sy’n
edrych ar gadwraeth gwlâu morwellt. Mae Laura Hughes ein Ceidwad Arfordirol yma
yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gyd weithio gyda sawl sefydliad
a’r gymuned leol i geisio lleihau unrhyw effeithiau sy’n cael effaith negyddol
ar y gwely morwellt ym Mhorthdinllaen. Planhigyn blodeuol morol yw morwellt ac
mae ei ddail gwyrdd yn creu dolydd tebyg i’r rhai sydd i’w canfod ar y tir o
dan y môr. Mae gan y dolydd yma nifer o fuddion unigryw yn cynnwys…
- Cynnig cynefin pwysig i bysgod ifanc- yn cynnwys sawl rhywogaeth sydd o bwysigrwydd masnachol- cyn iddynt aeddfedu a symud i ddyfroedd dyfnach.
- Mae morwellt yn amsugno llawer iawn o garbon deuocsid ac yn creu ocsigen- mae un medr sgwâr o forwellt yn gallu creu 10litr o ocsigen bob diwrnod.
- Mae morwellt yn rheoleiddio’r cylchred maetholion trwy ei allu i amsugno maetholion a chemegau a’u nadu i gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd morol.
….ac mae’r rhestr yn mynd yn ei flaen! Mae gan wefan
y prosiect llawer mwy o wybodaeth ar fuddion gwely morwellt iach www.penllynarsarnau.co.uk/projects.aspx
Yn nol i Borthdinllaen. Pentref pysgota tlws ger Morfa Nefyn yw Porthdinllaen ac mae ei fae yn gartref i wely morwellt mawr sydd wedi ei amcangyfrif i fod o’r un maint a 46 cae pêl droed, ac yn un o’r rhai mwyaf yng Ngogledd Cymru. Beth yw’r broblem? Mae angorfeydd ym Mhorthdinllaen yn cael effaith niweidiol ar y morwellt trwy sgwrio arwyneb gwely’r môr gan odi a dadwreiddio’r morwellt a gadael cylchoedd o fylchau mawr yng ngwely’r morwellt fel sydd i’w weld yn y llun isod.
Llun Porthdinllaen o'r awyr © This orthophotography has been produced by COWI A/S from digital photography captured by them in 2006. Licensed by the Welsh Assembly Government's Department for Environment.
Felly
beth mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn wneud am y sefyllfa? Mae’r morwellt
yn rhan bwysig o Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau ac mae ei fod
wedi ei farnu i fod mewn cyflwr anffafriol. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymuno
gyda Swyddog yr Ardal Cadwraeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, SEACAMS a
budd-ddeilliaid lleol fel Cymdeithas Pysgotwyr Llyn gyda’r diben o ddatblygu
opsiynau rheoli yn yr ardal sy’n sicrhau cadwraeth y morwellt heb effeithio
defnydd presennol yr ardal.
Beth sydd yn digwydd ar y funud? Mae’n brosiect hir
dymor, rydym yn awyddus i gasglu gymaint o dystiolaeth ac sy’n bosib i fwydo i
mewn i unrhyw benderfyniadau. Rhan fawr o’r prosiect yw’r cysylltiad gyda’r
gymuned leol a defnyddwyr yr ardal. Mae llawer o wybodaeth wedi ei gasglu mewn
arolygon yn ystod 2013 ac mi fydd y canlyniadau yn cael eu rhoi ar y wefan ac
yn cael eu trafod yn ystod diwrnodau agored a sesiynau galw heibio yn ystod
2014. Hefyd ar y gweill mae gwaith i geisio adnabod addasiadau gall ei wneud i
angorfeydd Porthdinllaen i leihau eu heffaith ar y morwellt. Gobeithio y byddan
yn medru darganfod addasiad sy’n addas ar gyfer Porthdinllaen ac y gallwn ei
dreialu yn y bae.
Bydd y cyfle nesa i ddysgu mwy am y prosiect ac i
drafod unrhyw elfen ohono yn cymryd lle yng Nghlwb Golff Nefyn ar Chwefror y
4ydd-
3-5yh: Sesiwn galw heibio
5-6yh: Lluniaeth ysgafn
6yh: Cyflwyniad ar y prosiect hyd yma a’r
datblygiadau nesaf
7yh: Gweithdai ar addasiadau i angorfeydd a
chreu llwybr snorclo
Mae croeso cynnes i bawb
ar gyfer unrhyw ran o’r diwrnod, am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu â Laura ar
01758 760469.
gan Guy Metcalfe, Gwirfoddolwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
No comments:
Post a Comment