Thursday 13 March 2014

Ysgol Crud y Werin yn Helpu i baratoi Porth y Swnt


Mae plant o Ysgol Crud y Werin yn Aberdaron wedi helpu i greu gosodiad ar gyfer Porth y Swnt, ein Canolfan Ragoriaeth Twristiaeth Arfordirol sydd i agor yn Aberdaron diwedd y mis.

Plant Ysgol Crud y Werin yn dangos eu gwaith.

Fe ymunodd Christine Evans, y bardd o Lŷn, â’r bobl ifanc i baentio cerrig crynion a fydd yn cael lle blaenllaw yn y gosodiad ‘Môr o Eiriau’ ym Mhorth y Swnt. Yn ystod yr ymweliad bu Christine yn annog disgyblion i ddefnyddio ysbrydoliaeth o’r môr a’r dirwedd o gwmpas i baentio eu hoff air ar gerrig crynion.


 Plant brwdfrydig!

Mae gwaith Christine Evans wedi ei ddylanwadu gan amser a dreuliwyd ar Ynys Enlli lle’r oedd ei gŵr yn gweithio fel gwarcheidwad y goleudy ac fel pysgotwr.  Mae ei barddoniaeth yn tynnu ar ddelweddaeth o olau a dŵr ac mae’n dal i ddysgu cyrsiau ysgrifennu ar yr ynys.

 Casgliad o'r cerrig

Bydd y ganolfan newydd yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod hanes a diwylliant Llŷn. Bydd canolfan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ag arddangosfeydd ac arddangosiadau rhyngweithiol yn dilyn thema ‘Goleuni ar Lŷn’, fel gwaith celf, synau, a barddoniaeth yn ogystal â straeon gan bobl leol.

Bydd ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal yn cael eu hannog i ddeall ffordd draddodiadol o fyw sy’n wirioneddol Gymreig yn Aberdaron ac sydd wedi ei gwau’n annatod â’r môr ac i dreulio mwy o amser yn fforio Llŷn ymhellach.

Rydyn ni’n gobeithio y daw Porth y Swnt cyn bôr hir yn rhan bwysig o’r gymuned yn Aberdaron ac yn Llŷn yn gyffredinol. Hoffem helpu cenedlaethau iau i ddeall hanes a chwedlau cyfoethog eu cartref ac rydyn ni’n bwriadu gweithio’n agos gydag ysgolion a busnesau lleol a’r gymuned.

Mae Porth y Swnt yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

No comments:

Post a Comment